Skip to content

Dyma'r tro cyntaf inni greu Rhaglen Datblygu Graddedigion ac iddi fframwaith penodol ar draws ein holl fusnesau Ewropeaidd. Pam? Oherwydd mai dyma'r amser i ni. Wrth i'n gweithrediadau ledu ac i enw Arriva ddod yn fwy cyfarwydd, rydym yn awyddus i ddatblygu grŵp newydd o raddedigion a all ein helpu i wireddu rhagoriaeth weithredu i'n cwsmeriaid.

Rhennir ein Rhaglen yn ddwy ffrwd: Rhaglen Reoli Gyffredinol a Rhaglen Beirianneg o dan arweinyddiaeth fwy technegol. Yn y ddau achos, mae'r nod yr un fath: creu dilyniant o reolwyr sy'n deall ein materion gweithredu, yn cydnabod ein hanghenion busnes ac yn gwybod beth sydd eisiau i'n cadw'n llwyddiannus.