Skip to content

Drwy gydol y Rhaglen Datblygu Graddedigion, bydd modd ichi fanteisio ar gefnogaeth o wahanol gyfeiriadau. Wrth ddechrau yma, byddwch yn cydweithio'n agos â rheolwr yn eich maes busnes dethol, a fydd yn eich helpu i osod eich amcanion beunyddiol ac yn cadw golwg ar eich cynnydd. Bydd eich rheolwr hefyd yn darparu cyngor, cefnogaeth ac atborth, gan wneud yn siŵr yn y pen draw fod eich gwaith yn bodloni'r safonau angenrheidiol.

Arriva Graduates
*
Arriva Graduates

Mentoriaid

Fe gewch hefyd adolygiadau rheolaidd gyda rheolwyr uwch fel y gallwch fagu persbectif newydd ar eich datblygiad, gan sicrhau barn dymor-hir am eich twf proffesiynol. Bydd yr adran Adnoddau Dynol yno i roi help llaw yn ogystal, o ran materion hyfforddi a datblygu.

Byddwn hefyd yn trefnu mentor ichi. Rhywun uchel ei safle a all gynnig golwg fwy gwrthrychol dros eich twf proffesiynol. Yn y bôn, bydd yno i'ch hyfforddi; i hybu'ch cynnydd gyrfa; i ddatblygu'ch medrau busnes ehangach; ac i'ch helpu gyda phenderfyniadau ynghylch beth y dymunwch ei gyflawni yn y dyfodol. Gan y gallai hefyd berthyn i faes y tu allan i'r agwedd fusnes a ddewisir gennych, gallwch siarad ag ef/â hi heb flewyn ar dafod am eich disgwyliadau a'ch profiadau.

Where do you want to be?