
Mae'r gwasanaethau cludiant a roddwn yn dwyn perthynas agos ag anghenion y cymunedau a wasanaethwn. Gan hynny, ledled Ewrop, mae'r gwasanaethau a gynigiwn wedi'u teilwra'n benodol i fod yn addas i'r wlad unigol. Mae'r adran hon yn rhoi gorolwg dros y gwasanaethau a ddarparwn yn y wlad yr ymgeisiwch ar ei chyfer.
Cafodd ein Rhaglen Datblygu Graddedigion ei chynllunio i feithrin arweinwyr busnes sydd â'r medrau cyffredinol i fynd i'r afael â heriau ar draws ein gweithrediadau. Felly, er y byddwch yn arbenigo, mae'n debyg, mewn maes penodol, byddwch hefyd yn magu amrywiaeth helaeth o fedrau fydd o gymorth ichi ddatblygu'n rheolwr cymesur ac yn eich galluogi i wneud y gorau o gyfleoedd gyrfa'r dyfodol o fewn Arriva.
