Skip to content

Rydym wedi rhannu'n Cwestiynau Mynych yn dri grwp fel y gallwch fwrw golwg drostynt yn ddidrafferth. Rydym wedi ceisio ateb cymaint o gwestiynau â phosib, ond os ydych wedi meddwl am rai na feddyliom ni amdanynt, e-bostiwch eich ymholiad i graduaterecruitment@arriva.co.uk

Arriva Graduates
*
Arriva Graduates

Cyn ymgeisio

A oes oedran uchaf/isaf ar gyfer eich rhaglen?
Nac oes, mae Arriva wedi'i ymrwymo i amrywiaeth ac mae'n cydnabod ac yn derbyn y gall pob math o bobl fod yn llwyddiannus yn y gwaith. Mae ein proses o ddethol pobl ar gyfer ein rhaglen i raddedigion yn sicrhau bod unigolion yn cael eu dewis a'u trin ar sail eu teilyngdod a'u galluoedd perthnasol yn unig.

Dydw i ddim yn ddinesydd yn yr Undeb Ewropeaidd a bydd arna i angen trwydded waith - allwch chi helpu?
Yn anffodus, allwn ni ddim derbyn eich cais oni bai bod gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y DU. Adeg yr asesu, bydd angen inni weld prawf ar ffurf pasbort y DU neu'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, neu ryw ddogfennaeth ategol debyg. Am wybodaeth bellach ynghylch yr Hawl i Weithio yn y DU, ymwelwch ag www.ind.homeoffice.gov.uk

Rwy'n ystyried cymryd blwyddyn yn rhydd ar ôl y brifysgol. Ddylwn i wneud cais yn awr?
Croesawn geisiadau gohiriedig. Os ydych yn mynd i ffwrdd, gall fod yn gysur i wybod bod swydd yn aros ichi wrth ddod yn ôl.

Ydych chi'n cynnig profiad gwaith cyn-raddio?
Gall busnesau unigol o fewn Arriva gynnig profiad gwaith, ond mae angen ichi gysylltu'n uniongyrchol â nhw i gael gwybod.

Beth os oes gen i ofynion arbennig a bod arna i angen cymorth i lenwi fy nghais?
Rydym yn falch o gynorthwyo - ffoniwch ni ar 0191 5252012. Rydym yn gyflogwr cyfle cyfartal ac am wneud popeth a allwn i sicrhau bod ein proses ymgeisio mor deg â phosib.

A fyddwch yn ymweld â'm prifysgol i cyn hir?
Gallwch ddod i wybod yn yr adran Digwyddiadau Graddedigion ar y wefan hon.

 

Y Cam Ymgeisio

Beth yw'r ffordd orau o wneud cais?
Carem ichi wneud cais drwy ddefnyddio'n system ymgeisio ar-lein.

Beth yw'r terfyn amser i geisiadau?
Does yna derfyn amser. Ond byddwn yn llenwi swyddi gwag wrth ddod i hyd i'r bobl briodol, felly gall rhai rhaglenni ddod yn llawn ynghynt nag eraill.

Beth os bydda i ar fy ngwyliau yn ystod y dyddiadau cyfweld?
Fe geisiwn fel arfer gynnig dewis arall ichi ond, gan ddibynnu ar y sefyllfa o ran swyddi gwag, fydd hyn ddim bob amser yn bosib.

A fydd Arriva yn talu fy nhreuliau os bydda i'n dod i Ddigwyddiad Asesu?
Bydd, unrhyw dreuliau rhesymol. Felly peidiwch â chyrraedd mewn hofrennydd!

 

Ceisiadau llwyddiannus

Faint o dâl ga i?
Fe gewch £22,000 y flwyddyn, ynghyd â buddion.

Ble bydd fy nghanolfan?
Bydd hyn yn dibynnu ar y cwmni yr ymunwch ag ef. Mae angen ichi allu gweithio a bod yn barod i weithio mewn amrywiol leoedd fel bod modd ichi brofi o leiaf ddau leoliad busnes gwahanol yn ystod y Rhaglen.

Ga i gymorth adleoli gennych?
Gellir cynnig rhywfaint o gymorth ar sail dymor-byr.

Ga i gar cwmni?
Na chewch, fydd gennych chi ddim hawl i gar cwmni wrth ddilyn y Rhaglen.

Fydda i'n gwneud gwaith prosiect yn ystod y Rhaglen?
Byddwch, o fewn y busnes a bennir ichi. Gall hefyd fod cyfle i ddilyn prosiectau'n rhychwantu Arriva cyfan.

Faint o gyfle sydd i weithio dramor?
Bydd y lleoliadau o fewn ein busnesau yn y DU. Mae rhaglenni eraill ar gael o fewn ein gweithrediadau ar gyfandir Ewrop. Ond bydd angen chi wneud cais uniongyrchol i'r wlad berthnasol. Bydd ein gwefan yn cyflwyno manylion y rhaglenni sydd ar gael gennym yn Ewrop.

Where do you want to be?