Pryd dechreusoch chi? 'Ymunais i'n wreiddiol â rhaglen hyfforddi graddedigion ym 1979. Doedden ni ddim hyd yn oed yn rhan o Arriva bryd hynny. Fel mater o ffaith, nid tan 1994 y daeth y cwmni yr ymunais ag ef yn rhan o Arriva. Ers hynny, fe wnaed argraff gref arna i gan ddiwylliant Arriva. Fe gewch ddigon o annibyniaeth, digon o ymddiriedaeth, digon o ryddid i wneud penderfyniadau. Ac nid fy safle fel rheolwr-gyfarwyddwr yn unig sy'n cyfrif am hynny chwaith. Rwyf wedi sylwi ar y peth drwy gydol fy ngyrfa.
Ble ydych chi nawr? 'Er mai fel un newydd raddio yr ymunais i ym 1979, buodd fy llwybr datblygu fwy neu lai yr un fath â'r llwybr y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn ei ddilyn heddiw. Ar ôl fy hyfforddiant datblygu graddedigion, symudais i ymlaen i reoli dau fodurdy bysus. Wedi magu profiad yno, fe ddes i'n rheolwr traffig i Ogledd-orllewin Llundain cyn dod yn gyfarwyddwr masnachol ar gwmni a gafodd ei aileni fel Arriva London ym 1988. Fe ddes i'n rheolwr-gyfarwyddwr ddeng mlynedd wedyn.
Beth nesaf? 'Rwyf wedi mynd i'r afael â nifer o heriau gwir wahanol wrth weithio i Arriva. Mae agweddau fel gwrthdroi perfformiad gwael yn ddim mwy nag y byddai dyn yn disgwyl. Ond wedyn, fyddech chi ddim yn disgwyl mynd ag Aelodau'r Bwrdd ar daith o gwmpas Llundain yn sgil y bomio diweddar. Gall fod yn anodd, ond fe all hefyd roi boddhad mawr. Adegau eraill, mae'n wych. Rwy'n cefnogi'r Arsenal, a chan fy mod yn gweithio i Arriva, fel mae'n digwydd rwyf wedi gyrru bws y tîm! Beth nesaf? Wel, beth all ragori ar hynny?'