

![]() |
![]() |
Ein gweledigaeth yw cael ein cydnabod fel y prif ddarparwr gwasanaethau cludiant yn Ewrop. Ein canolbwynt yw ennill a chadw contractau, creu twf organaidd a thargedu caffaeliadau allweddol. Yn y pen draw, arfaethwn gadarnhau'n henw da drwy roi gwasanaethau gwell, bod yn fwy blaengar a marchnata'n hunain yn fwy effeithiol. Mae'n cwsmeriaid yn amrywio o unigolion i awdurdodau cyhoeddus a chwmnïau masnachol - felly, rydym am greu brand sy'n ein nodweddu fel pobl hygyrch, agored ac agosatoch. Mae'n gwerthoedd yr un mor bendant. Yn gyntaf oll, mae gennym ymrwymiad i ddiogelwch ein gweithwyr a'n cwsmeriaid. Cefnogwn ddiwylliant o uniondeb a gonestrwydd, ac anogwn ddatblygiad cynaliadwy ac ymwybyddiaeth amgylcheddol. Ceisiwn bob amser feithrin gwerth tymor hir: i'n budd-ddeiliaid, i'n busnes ac i'r cydberthnasau a grëwn gyda chymunedau lleol. Wrth i frand Arriva ymsefydlu ar draws Ewrop, fe ddaw'r Weledigaeth hon a'r Gwerthoedd hyn yn fwyfwy pwysig. A dweud y gwir, wrth i ninnau dyfu ac i chithau ddatblygu, fe ddônt i chwarae rhan allweddol yn nyfodol y ddau ohonom. |
