
Arriva plc yw un o gyrff gwasanaethau cludiant pennaf Ewrop. Gweithredwn fflyd o fwy na 14,500 o gerbydau, cyflogwn dros 38,000 o bobl a darparwn fwy na biliwn o siwrneiau teithwyr bob blwyddyn. Pe bai pawb o'n pobl yn cyd-gwrdd yn yr un lle, byddem yn llenwi'r Albert Hall chwe gwaith drosodd.
Yn y DU, rydym yn enw brand adnabyddus sy'n rhychwantu busnesau'n cynnwys Gwasanaethau Bws a Rheilffyrdd. Ond nid maint a graddfa'n gweithrediadau yn unig sy'n ein gwneud yn ddiddorol. Mae'n gwestiwn hefyd o'r diwydiant y gweithiwn ynddo a'r heriau a wynebwn.
Cludiant yw un o'r materion mwyaf cymhleth a wynebir gan lywodraethau a chymunedau ledled Ewrop. Fel busnes, ein nod yw gweithio mewn partneriaeth agos ag eraill i greu atebion sy'n diwallu anghenion, sydd o les i'r amgylchedd ac yn hybu ansawdd bywyd.
I chi, mae hyn yn golygu ysgwyddo cryn gyfrifoldeb yn gynnar yn eich gyrfa. Mae'n golygu symud i sector o ddiwydiant lle mae'r disgwyliadau'n newid a'r datblygiadau yn rhai sydd o amlygrwydd uchel. Mae hefyd yn golygu mynd i'r afael â materion gweithredol anhydrin, blaenoriaethau sy'n gwrthdaro ac amserlenni tynn.
Yn anad dim, mae'n golygu bod yn un o arweinwyr busnes y dyfodol mewn corff sydd bob amser yn edrych ymlaen.
