Skip to content

Fel cyflogwr, ein nod yw adlewyrchu amryfaliaeth y cymunedau a wasanaethwn. Ac mae'r cymunedau hynny'n wir amryfal. Y ni yw un o ddarparwyr cludiant teithwyr mwya'r sector preifat ar dir mawr Ewrop, gyda gweithrediadau yn Nenmarc, yr Eidal, yr Almaen, yr Iseldiroedd, Portiwgal, Sbaen a Sweden, y Weriniaeth Tsiec yn ychwanegol at y DU. Felly, yn ogystal â gweithredu gwahanol fathau o wasanaeth, ymestynnwn ar draws ffiniau daearyddol i brofi gwahanol ddisgwyliadau diwylliannol.

Arriva Graduates
*
Arriva Graduates

I ni, mae amryfaliaeth yn golygu mawrbrisio'r gwahaniaethau a amlygir gan ein gweithwyr a'n cwsmeriaid. Mae'n gwestiwn o gydnabod a derbyn bod amryfaliaeth yn golygu mwy na gwahanol fathau o bobl - ei bod yn golygu hefyd wahanol syniadau, medrau, golygweddau, safbwyntiau ac ymagweddau. Nid ydym i gyd yr un fath. Ond yn Arriva fe rannwn yr un angerdd am weithio ynghyd.

Credwn yn gryf y bydd cofleidio amryfaliaeth yn effeithiol o les i'n busnes. Drwy groesawu pob math o weithwyr a chwsmeriaid yn bendant, gallwn ennill mantais gystadlu a chynnig gwell gwasanaeth i sylfaen gwsmeriaid ehangach. Gallwn hefyd ddod yn gyflogwr o ddewis, lle bydd pobl ddawnus yn teimlo bod croeso brwd iddynt a'u bod yn cael eu mawrbrisio a'u gwobrwyo.

 

 

Where do you want to be?