Skip to content

Busnes ydyn ni, felly, yn amlwg ddigon, byddwn yn canolbwyntio ar wneud elw ariannol priodol. Canolbwyntiwn hefyd ar ddefnyddio cludiant i wella ansawdd bywyd. Gan hynny, mae'n gwneud synnwyr ein bod yn chwarae rhan ym mywyd y gymuned, yn creu cydberthynas gref â'n cwsmeriaid ac yn llunio perthnasau sy'n mynd ymhellach na chysylltiadau cludiant pur.

Arriva Graduates
*
Arriva Graduates

Yn hytrach na bod yn ddim ond busnes sy'n cludo pobl o A i B, rydym am gael ein hystyried yn ddarparwr atebion. I gychwyn, dychmygwch amrywiaeth y cymunedau a wasanaethwn. Mae yna gymunedau gwledig gwir ddiarffordd. Mae yna amgylcheddau trefol sy'n brwydro i ddatrys tagfeydd. Mae yna bobl i'w cludo at eu gwaith, plant i'w cludo i'r ysgol, awdurdodau lleol sydd am gael atebion cost-effeithiol ac eraill sy'n disgwyl profiad teithio o ansawdd uchel. Mae angen inni weithio'n agos gyda chymunedau i greu, datblygu a gweithredu atebion cynaliadwy, blaengar a dychmygus.

Felly, trwy Arriva cyfan, cofleidiwn fentrau cymunedol ac anogwn ein pobl i gydio ym mywyd y gymuned. Gweithiwn yn agos gydag awdurdodau, elusennau, busnesau a'r cyhoedd, gan sicrhau bod cludiant yn chwarae rhan dyngedfennol wrth greu a chynnal cymdeithasau cynhwysol.

 

 

Where do you want to be?